Edrych i mewn: Cymraeg

Mae Coed Cadw, yr Ymddiriedolaeth Coetiroedd yng Nghymru, yn ystyried ei ymateb i gynnig Llywodraeth Cymru o ofyniad gorchudd coed o 10% ar gyfer y ffermydd hynny sy’n gwneud cais am arian cyhoeddus drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

Ar gyfartaledd, mae gorchudd coed ar ffermydd yng Nghymru eisoes yn 6-7%, felly i lawer o ffermydd, gofyniad cymharol fach byddai codi hyn hyd at 10%. Mae Coed Cadw yn awgrymu y bydd llawer o ffermydd yn gallu cyflawni hyn mewn ffyrdd sy’n cefnogi busnes y fferm, yn ogystal â darparu manteision cyhoeddus ehangach sy’n cyfiawnhau arian cyhoeddus, er enghraifft, drwy blannu ac adfer coed, gwrychoedd a choedwigoedd i ddarparu cysgod a lloches a diogelu rhag erydiad pridd a llygredd.

“Rydym ni’n cefnogi’r polisi i gynyddu gorchudd coed yn sylweddol ar ffermydd,” meddai Natalie Buttriss, Cyfarwyddwr Cymru Coed Cadw. “Credwn ei fod yn angenrheidiol ac yn ddymunol, ar gyfer ffermio a’r cyhoedd. Mae hyn yn amlwg yn newid mawr i ffermwyr ac rydym yn credu ei bod yn briodol defnyddio arian cyhoeddus drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy i gefnogi ffermwyr i wneud y newid hwn.”

Mae Coed Cadw yn nodi:

  • NID oes angen i ffermydd blannu 10% o’u tir, dim ond i ddod â’u gorchudd coed a choetir presennol i fyny at 10%.
  • Ar gyfartaledd, mae gan ffermydd yng Nghymru orchudd coed o 6-7% yn barod.
  • Bydd costau plannu newydd yn cael eu talu’n llawn gan grantiau Llywodraeth Cymru, ac am y tro cyntaf, bydd ffermydd yn y Cynllun yn cael taliad am yr ardal o orchudd coed a choetir maen nhw’n ei chadw.
  • NID yw’n ofynnol i ffermydd neilltuo 20% o’u tir i greu gorchudd coed a chynefin. Mae llawer o hyblygrwydd yma, er enghraifft gellir cynnwys gorchudd coed a choetir brodorol y fferm fel rhan o’r gofyniad gorchudd coed a’r gofyniad cynefin. Mae cynefin yn cynnwys glaswelltir a rhostir cyfoethog ei rywogaethau sy’n parhau i gael ei bori ac i fod yn gynhyrchiol, a ble nad oes gan ffermydd ddigon o’r cynefinoedd parhaol hyn, gallant fodloni’r gofyniad drwy greu cynefin dros dro o werth, fel porfeydd aml-rywogaeth.

Wrth i ffermwyr a sylwebwyr fynegi pryderon ynghylch gofynion y Cynllun arfaethedig, mae Coed Cadw wedi ailadrodd yr angen i gefnogi’r sector ffermio teuluol a’u cred yn y buddiannau ffermio a chyhoeddus sy’n deillio o gynyddu gorchudd coed ar ffermydd. Yn ‘10 Asks of the Sustainable Farming Scheme’, mae Coed Cadw wedi nodi’r camau angenrheidiol i’w cymryd er mwyn sicrhau gorchudd coed o 10%.

Mae ffermwyr ar reng flaen yr argyfwng hinsawdd a natur, ac mae coed ar ffermydd yn hanfodol i bryfed peillio, lles da byw, lliniaru llifogydd a dal a storio carbon. Gall coed brodorol hidlo a sgrinio yn naturiol, gan leihau cyfraddau colli pridd a charbon, a llygredd mewn nentydd ac afonydd.

Mae Coed Cadw yn annog ac yn cefnogi ffermwyr i ystyried sut i gynnwys coed yn eu harferion ffermio er mwyn hybu cynhyrchiant a chynaliadwyedd, fel y mae llawer wedi’i wneud yn draddodiadol. Mae wedi rhannu nifer o astudiaethau achos lle mae ffermwyr wedi defnyddio coed ar eu ffermydd ar ffurf ‘perthi ac ymylon caeau’, neu systemau amaeth-goedwigaeth. Mae’r dull hwn hefyd wedi cael cefnogaeth eang ar draws holl bleidiau gwleidyddol y Senedd.

Mae ffermio’n wynebu llawer o heriau ariannol a chynaliadwyedd ac mae Coed Cadw yn cefnogi dull cytbwys sy’n mynd i’r afael â hyfywedd ariannol ffermydd teuluol a gwarchodaeth amgylcheddol, bygythiadau hinsawdd a dirywiad mewn bywyd gwyllt. Mae angen canolbwyntio ar newidiadau diriaethol ond cyraeddadwy.

Eglura Natalie Buttriss:

"Mae angen dull amlweddog arnom i fynd i’r afael â’r heriau ehangach hyn. Credwn yn gryf y bydd y gofynion gorchudd coed sylfaenol a’r gofynion cynefin sylfaenol yn y cynllun hwn yn helpu ffermio, yr amgylchedd a phoblogaeth Cymru. Gwyddom o weithio’n uniongyrchol gyda ffermwyr ledled Cymru fod llawer yn dod o hyd i ffyrdd llwyddiannus o weithio gyda choed sy’n dda i’w busnes fferm, yr amgylchedd naturiol, yn ogystal â’r cyhoedd, gan ategu cynhyrchu bwyd cynaliadwy o safon. Gyda hyblygrwydd ac arloesedd, mae hyn i gyd yn gyraeddadwy.

"Mae amrywiaeth o opsiynau y credwn sy’n werth eu hystyried ymhellach ac mae’r ymgynghoriad presennol hwn yn gyfle i wneud hyn. Byddwn yn gwneud rhagor o awgrymiadau am newidiadau a allai helpu.

"Rydym ni wedi ymrwymo i feithrin deialog gadarnhaol o ran coed ar ffermydd, ac i weithio ar y cyd tuag at gyflawni’r dyfodol cynaliadwy a amlinellwyd gan y targed gorchudd coed o 10%."

Swyddogaeth hanfodol coed ar ffermydd

Yn ystod sychder yr haf y llynedd, gwelsom y tymheredd uchaf erioed yng Nghymru (37.1C ym Mhenarlâg, Sir y Fflint). Ledled Cymru, roedd ffermwyr yn edrych ar borfeydd brown, anial; gorfodwyd llawer ohonynt i ddefnyddio’u cronfeydd wrth gefn er mwyn gallu bwydo eu da byw. Mae ffermwyr eisoes yn dlawd o ran arian, ac roedd gorfod prynu porthiant da byw drud ychwanegol yn fwrn ariannol sylweddol iddynt - mewn rhai achosion, mae hyn wedi cael ei ailadrodd gyda sychder diwedd y gwanwyn a dechrau’r haf yn 2023, gan waethygu’r prinder dŵr a oedd wedi digwydd yn 2022.

Mae’r weithred o ymgorffori mwy o goed ar ffermydd – drwy blannu’r hyn y mae Coed Cadw yn ei alw’n ‘perthi ac ymylon caeau’ – yn cynnig nifer o fanteision o ran mynd i’r afael ag effeithiau cynyddol yr argyfwng hinsawdd a natur yn y blynyddoedd i ddod.

Mynd i’r afael â gwres, sychder a llifogydd

Mae llifogydd, cyfnodau o wres uchel, a sychder yn debygol o ddod yn fwyfwy cyffredin wrth i’r newid yn yr hinsawdd waethygu.

Wrth i law trwm dywallt oddi ar lethrau mynyddoedd, gan gael ei gyflymu gan systemau draenio artiffisial coedwigoedd a ffermydd, mae diffyg gorchudd coed cywir, yn y mannau cywir, yn golygu nad oes llawer o rwystrau i’w arafu’n naturiol.

Dros y blynyddoedd nesaf, bydd cynyddu gorchudd coed a gwrychoedd brodorol ar draws llethrau’r ucheldir, ochr yn ochr â cheunentydd, nentydd a rhigolau, yn allweddol i liniaru’r effeithiau cynyddol, a chostau ariannol a dynol llifogydd.

Bydd coed a gwrychoedd hefyd yn hanfodol i ddarparu cysgod a lloches i amddiffyn rhag gwres a sychder, ar yr un pryd â gwella carbon pridd, deunydd organig a ffrwythlondeb pridd, gan leihau faint o leithder sy’n cael ei golli mewn pridd. Mae cynyddu’r gorchudd coed yn helpu’r glaw i fynd yn ddyfnach i mewn i’r pridd, gan sugno dŵr a maetholion i fyny o ddyfnder.

Atal erydu, llygredd a gwella iechyd afonydd

Bydd datblygu coetir brodorol ar hyd coridorau afonydd yn hanfodol i wrthdroi colli bywyd gwyllt dŵr croyw, a’r bywyd gwyllt ar y tir sy’n dibynnu ar afonydd. Mae bioamrywiaeth dŵr croyw yn sensitif iawn i eithafion gwres (fel sy’n cael ei ddangos gan ein poblogaeth eog, sydd bellach yn dirywio’n eithriadol). Gall coed ar hyd afonydd hefyd sgrinio ac oeri dŵr croyw a lleihau erydiad pridd, gan ryng-gipio llygryddion a dŵr ffo o ffermydd hefyd.

Gwella canlyniadau i dda byw

Mae cynyddu gorchudd coed priodol fel rhan o system y fferm yn fudd naturiol i les da byw. Mae coed yn darparu cysgod ychwanegol i dda byw sy’n sensitif i wres, ac mae’n ffynhonnell naturiol arall o borthiant da byw, a elwir yn borthiant coed neu’n wair coed. Gall da byw fod yn hapusach, yn iachach ac yn fwy cynhyrchiol yn pori ac yn chwilota am fwyd ymysg coed ac yn cael eu cysgodi gan wrychoedd, tra gall cnydau dyfu rhwng rhesi coed, gyda chymorth naturiol y coed sy’n darparu cysgod rhannol, ac sy’n sugno maethynnau, a helpu i ddal dŵr yn ddyfnach ac yn hirach o fewn priddoedd.

Nodiadau i olygwyr

Coed Cadw, yr Ymddiriedolaeth Coetiroedd yng Nghymru

Coed Cadw yw’r elusen cadwraeth coetiroedd fwyaf yn y DU. Mae ganddi dros 500,000 o gefnogwyr. Mae eisiau gweld y DU yn llawn coed a choetiroedd brodorol ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Mae gan yr Ymddiriedolaeth dri phrif nod:

  1. gwarchod coetir hynafol, sy’n brin, yn unigryw ac yn anadferadwy
  2. adfer coetir hynafol sydd wedi’i ddifrodi, gan anadlu bywyd newydd i ddarnau gwerthfawr o’n hanes naturiol
  3. plannu coed a choedwigoedd brodorol gyda’r nod o greu tirweddau cydnerth ar gyfer pobl a bywyd gwyllt.

Sefydlwyd Coed Cadw ym 1972, ac erbyn hyn mae gan y sefydliad dros 1,000 o safleoedd yn ei ofal, sy’n cynnwys tua 29,000 hectar. Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gyda chyfanswm arwynebedd o 2,897 hectar (7,155 erw).

Mae mynediad i goedwigoedd yr Ymddiriedolaeth yn rhad ac am ddim, felly gall pawb elwa o goedwigoedd a choed.

Mae enw Cymraeg yr Ymddiriedolaeth, 'Coed Cadw', yn hen derm Cymraeg, a ddefnyddir mewn cyfreithiau canoloesol i ddisgrifio coetir gwarchodedig neu goetir cadwedig.

Mae gennym dîm bach sy’n rhoi cyngor a chymorth i ffermwyr a thirfeddianwyr.