Edrych i mewn: Cymraeg
Gwledd o greadigrwydd ymysg naturiaethwyr ifanc brwd yn Eisteddfod yr Urdd 2024 ym Maldwyn
Digital Communications Officer - Wales
Mae Coed Cadw, sef The Woodland Trust yng Nghymru, wedi cyhoeddi enillwyr eu cystadleuaeth Cyfnod Allweddol 2, ‘Bod yn Greadigol ym Myd Natur’, a gynhaliwyd ar y cyd â’r Urdd.
Lluniwyd y gystadleuaeth i gael myfyrwyr o bob cwr o’r wlad i gysylltu â'r awyr agored, ac i’w hannog i ddefnyddio eu sgiliau i archwilio byd natur, ac i elwa ar amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu sy'n gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru.
Yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2024 ym Maldwyn, cafodd y myfyrwyr buddugol eu cydnabod am eu gweithiau celf, ffotograffiaeth ac ysgrifennu creadigol. Cafodd eu prosiectau eu harddangos a’u dathlu yn ystod Eisteddfod yr Urdd 2024 yn yr Arddorfa, sef ardal werdd wedi’i noddi gan Coed Cadw a oedd yn cyfuno’r amgylchedd a’r celfyddydau.
Enillwyr Cystadleuaeth 1 – ‘Lluniau a Geiriau’r Goedwig’
Gwaith Celf
- Enillydd: Begw Grug Evans, Ysgol yr Hendre, Caernarfon
- Ail wobr: Lily Grange, Ysgol Arddleen
Ffotograffiaeth
- Enillydd: Logan, Ysgol Llangedwyn
- Ail wobr: Scarlett, Ysgol Llangedwyn
Barddoniaeth
- Enillydd (Cymraeg): Elis Rhys Rowlands, Ysgol Abererch
- Ail wobr (Cymraeg): Ceti Wynne Jones, Ysgol Abererch
- Enillydd (Saesneg): Steffan Danford, Ysgol Arddleen
- Ail wobr (Saesneg): Rosie Edwards, Ysgol Arddleen
Enillwyr Cystadleuaeth 2 – ‘Archwilio Safbwyntiau Gwahanol’:
- Gwobr gyntaf: Evelyn, Lily P, Caleb, ac Arthur, Ysgol Arddleen
- Ail wobr: William, Ashton, Toby, Caitlin, Henry, a Kellan, Ysgol Arddleen
- Trydedd wobr: Ysgol Nantgaredig
Roedd y panel beirniadu, a oedd yn cynnwys Tammie Esslemont – ymgyrchydd ieuenctid ac aelod o banel Coed Cadw – yn canmol ymdrechion a chreadigrwydd y myfyrwyr.
Dywedodd Tammie, “Mae annog meddyliau ifanc i ymwneud â byd natur yn hanfodol er mwyn creu dyfodol cynaliadwy, ac mae wedi bod yn wych gweld sut mae’r myfyrwyr wedi bwrw iddi yn y gystadleuaeth hon, ac wedi ymgysylltu mewn ffordd a fydd yn meithrin gwerthfawrogiad dyfnach o’r amgylchedd.”
Nodiadau i olygwyr
Gwybodaeth am Coed Cadw
Coed Cadw yw’r elusen cadwraeth coetiroedd fwyaf yn y DU. Mae wedi ymrwymo i gadw a gwarchod coetiroedd a choed brodorol, gan feithrin gwell gwerthfawrogiad o’r amgylchedd naturiol.
Gwybodaeth am Eisteddfod yr Urdd
Gŵyl ieuenctid Gymraeg flynyddol yw Eisteddfod yr Urdd, sy’n dathlu cerddoriaeth, llenyddiaeth a’r celfyddydau perfformio, gan ddarparu llwyfan ar gyfer talent ifanc o bob cwr o Gymru.