Support us
2024's winning projects
Get inspired by the brilliant projects that won our 2024 Igniting Innovation challenge - yours could be next!
Edrych i mewn: Cymraeg
Poeni am gadwraeth? Rydym yn chwilio am syniadau disgleiriaf y DU gan feddyliau ifanc.
Mae Tanio Arloesedd yn her cadwraeth natur gyffrous sy’n gwahodd pobl ifanc angerddol i rannu eu syniadau disgleiriaf ar gyfer planed iachach. Dyma'ch cyfle i ddod â phrosiect go iawn yn fyw gyda chyllid a chefnogaeth arbenigol.
Mae ceisiadau ar gyfer 2025 ar agor. Gwnewch gais nawr!
Sylwch mai dim ond ceisiadau yn Saesneg y gallwn eu derbyn.
Gyda newid hinsawdd ar garreg drws pawb, mae coedwigoedd a bywyd gwyllt dan fygythiad. Felly rydym yn ymuno â'r genhedlaeth nesaf. Gyda'ch help chi, rydyn ni'n dod o hyd i ffyrdd newydd o hybu bioamrywiaeth a chefnogi coedwigoedd a bywyd gwyllt yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Rydym yn cynnig cyfle i chwe unigolyn neu grŵp bach 16-25 oed ddatblygu a chyflawni prosiectau a fydd yn helpu byd natur.
Gallai eich syniad:
Os yw eich syniad yn un o'r 18 i gyrraedd y rhestr fer, fe'ch gwahoddir i sesiwn hyfforddi unigryw i adeiladu eich hyder i sefyll dros natur a gwneud cyflwyniad da. Bydd chwe chystadleuydd yn y rownd derfynol yn cael eu dewis i gyflwyno eu prosiect yn bersonol am gyfle i wireddu eu prosiect.
Yn ogystal â helpu i sicrhau dyfodol coedwigoedd a bywyd gwyllt, gall eich prosiect gyda ni roi hwb i'ch gyrfa ym maes cadwraeth. Sicrhewch brofiad go iawn yn y diwydiant a gwella'ch CV neu'ch cais prifysgol, a'r cyfan wrth helpu'r blaned.
Caiff ceisiadau eu beirniadu yn ôl pedwar prif faen prawf:
Support us
Get inspired by the brilliant projects that won our 2024 Igniting Innovation challenge - yours could be next!
Support us
The winning projects of 2023 are impacting the environment as we speak. Discover the bright ideas that made it to the top.
Cam un: gwnewch gais!
Amlinellwch eich syniad a sut rydych chi'n meddwl y gallwch chi wneud iddo ddigwydd gan ddefnyddio'r ffurflen gais.
Sylwch mai dim ond ceisiadau yn Saesneg y gallwn eu derbyn.
Cam dau: gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i hyfforddiant
Bydd y 18 ymgeisydd gorau yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn gweithdai ar-lein i helpu i fireinio manylion eich prosiect, rhoi hwb i’ch cyflwyniad a dod â’ch syniadau’n fyw. Dyma'ch cyfle i gwrdd â phobl o'r un anian a chael cymorth arbenigol i feithrin eich hyder a'ch sgiliau.
Cam tri: cyflwyniad fideo
Bydd 18 o ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cyflwyno cyflwyniad fideo. Nerfus i fod ar gamera? Peidiwch â chynhyrfu - rydym yn chwilio am syniadau da dros berfformwyr beiddgar! Rydym yma i'ch cefnogi, felly siaradwch â ni os oes gennych unrhyw bryderon. Yna byddwn yn dewis y chwe ymgeisydd olaf i fynd i'r rownd derfynol.
Cam pedwar: y rownd derfynol
Ar ôl gweithio ar eich syniad a’ch hyder gyda’n cefnogaeth arbenigol, gallech fod yn un o chwe chystadleuydd olaf a wahoddir i ddigwyddiad wyneb yn wyneb. Yma byddwn yn dathlu eich cyflawniadau a byddwch yn cyflwyno eich prosiect amgylcheddol i gynulleidfa fach a phanel o feirniaid enwog. Dyrennir arian gwobrau o gronfa o £20,000, yn unol ag anghenion pob prosiect. Y beirniaid sydd â'r gair olaf ar y gefnogaeth ariannol a gynigir i'ch prosiect. Gall y wobr ariannol fod rhwng £2,000 a £6,000.
Rhowch wybod i ni! Sgwrsiwch â ni trwy e-bost yn youth@woodlandtrust.org.uk a bydd ein tîm cyfeillgar yn eich helpu gydag unrhyw gwestiynau, pryderon neu anghenion hygyrchedd. Cysylltwch â’r tîm ieuenctid gan ddefnyddio Saesneg yn unig.
Gwnewch gais nawr gan ddefnyddio ein ffurflen gais. Sylwch mai dim ond ceisiadau yn Saesneg y gallwn eu derbyn.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein telerau ac amodau llawn.
Os oes gennych unrhyw anghenion ychwanegol ac angen cymorth i gael mynediad at unrhyw wybodaeth, anfonwch e-bost at youth@woodlandtrust.org.uk. Cysylltwch â’r tîm ieuenctid gan ddefnyddio Saesneg yn unig.
Support us
Empowering youth for a healthier planet: discover how we're shaping the future of woods, trees and wildlife together.
Woodland Trust Wood
Smalley
161.13 ha (398.15 acres)
Nature's Calendar
What effect has recent weather had on wildlife? Does climate change affect timings in nature? Nature’s Calendar helps reveal answers to these questions.
External link