Edrych i mewn: Cymraeg
Erbyn hyn, mae’r coetir hynafol yn Fferm Brynau yn cael ei drawsnewid yn noddfa ffyniannus i fywyd gwyllt, ond mae angen eich help chi arnom o hyd. Mae cyfle cyffrous wedi codi i fwy na dyblu maint y safle anhygoel hwn drwy brynu Cefn Morfudd.
Mae golygfeydd godidog i’w gweld dros fae adnabyddus Abertawe, ac mae potensial gan yr ucheldir gwyllt hwn - sy’n ffinio â Fferm Brynau - i fod yn hafan i bobl a natur.
Ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol
Drwy brynu Cefn Morfudd, mae modd i ni gyfoethogi brithwaith enfawr o gynefinoedd, gan gynnwys dolydd lliwgar o flodau gwyllt a rhostir wedi’i orchuddio â grug ac eithin. Byddai’r dirwedd ffrwythlon hon yn cysylltu coetiroedd hynafol â’i gilydd ac yn darparu cartrefi cadarn ar gyfer rhywogaethau brodorol sydd dan fygythiad, gan gynnwys y gylfinir, glöyn byw brith y gors a’r cudyll bach.
Hefyd, mae Fferm Brynau a Chefn Morfudd o fewn cyrraedd i 530,000 o bobl. Felly, mae gennym ni gyfle i gysylltu llawer o boblogaeth Cymru (18% mewn gwirionedd) â natur a chreu hafan werdd uwchben blerdwf trefol Castell-nedd.
Gwella bywydau a thirweddau
Drwy adfer mawndiroedd, rhostiroedd a choetiroedd hynafol yn ofalus, byddwn ni’n brwydro yn erbyn effeithiau newid hinsawdd, yn puro’r aer ac yn lliniaru llifogydd yn y dref islaw.
Yn llwyfandir yr ucheldiroedd, bydd y gwartheg gwyn Cymreig yn pori er mwyn annog adfywiad naturiol. Yn y cyfamser, bydd ein gwirfoddolwyr yn cael gwared ar blanhigion goresgynnol fel rhododendron er mwyn i flodau prin a bregus ar y ddaear ffynnu.
Dim ond 20 milltir i ffwrdd y mae tref brysur Castell-nedd, ac mae coedwigoedd a rhaeadrau hanesyddol Parc Gwledig y Gnoll yn borth i’r dref. Drwy grwydro yng nghefn gwlad Cymru, gall pobl leol ddatgloi manteision natur o ran iechyd, a darganfod creiriau diddorol a hanesyddol. Mae’r rhain yn cynnwys adfeilion castell a gerddi gwenyn canoloesol, lle bu mynachod o Abaty Nedd yn cadw cychod gwenyn i gynaeafu mêl grug.
Helpwch ni i hawlio Cefn Morfudd
Bydd eich cymorth chi yn ein rhoi gam yn nes at greu dyfodol iach i bobl a bywyd gwyllt ym mherfeddwlad ddiwydiannol Cymru.
Rhowch beth allwch chi – mae pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth.
Rhagor o wybodaeth am Brynau